Mae Gwerddon yn chwilio am Gadeirydd ar gyfer ei Fwrdd Golygyddol i olynu Dr Paula Roberts.

Y Cadeirydd sy'n gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd o Fwrdd Prosiect a Bwrdd Golygyddol Gwerddon. 

Bydd dyletswyddau penodol yn cynnwys:

  • Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Golygyddol (dau y flwyddyn - y naill ar-lein a'r llall wyneb yn wyneb, yn Aberystwyth fel arfer); 
  • Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Prosiect (dau ar-lein y flwyddyn);
  • Cynorthwyo'r Tîm Golygyddol gyda phenderfyniadau yn ymwneud â datblygiad a phrosesau'r cyfnodolyn, gan gynnig barn yn ôl y gofyn;
  • Cynrychioli'r Bwrdd Golygyddol ar Bwyllgor Ymchwil a Chyhoeddi y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (teirgwaith y flwyddyn);
  • Cefnogi'r Golygydd a'r Is-olygydd mewn digwyddiadau hyrwyddo achlysurol megis yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd tymor y swydd yn dair blynedd gan ddechrau ar 1 Medi 2024. Rôl ddi-dâl yw hon ond telir costau rhesymol (e.e. teithio). 

Dewisir y cadeirydd drwy bleidlais o aelodau presennol y Bwrdd Golygyddol yn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf, a hysbysir yr enwebai llwyddiannus yn dilyn hynny.

Gweler rhagor o wybodaeth yn y dogfennau isod. 

Gwahoddir unigolion i gyflwyno eu henw neu eu henwebiad drwy'r ffurflen enwebu isod erbyn canol dydd, dydd Gwener, 12 Ebrill 2024. 

Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Ffurflen enwebu Manylion Rôl Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol