Y Bwrdd Golygyddol
Mae aelodau Bwrdd Golygyddol Gwerddon yn cynorthwyo'r Golygydd, yr Athro Anwen Jones, a'r Is-Olygydd, Dr Hywel Griffiths, yn eu gwaith.
Mae aelodau'r Bwrdd yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru ac ystod o ddisgyblaethau academaidd gwahanol. Mae'r Bwrdd Golygyddol yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, a cheir hefyd Bwrdd Prosiect, sy'n cynnwys swyddogion y Bwrdd Golygyddol, sy'n gyfrifol am weinyddu Gwerddon o ddydd i ddydd.
Fel arfer bydd deg aelod ar y Bwrdd, yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd. Gwneir penodiadau i’r Bwrdd gan y Golygydd mewn trafodaeth â’r Cadeirydd a’r Bwrdd Golygyddol. Bydd modd i’r Golygydd wahodd aelodau i wasanaethau am dymor neu dymhorau ychwanegol, a hefyd wahodd sylwedyddion i gyfarfodydd y Bwrdd.
Aelodaeth y Bwrdd
Swyddogion
Cadeirydd: Dr Myfanwy Davies, Prifysgol Bangor
Golygydd: Yr Athro Anwen Jones, Prifysgol Aberystwyth
Is-Olygydd: Dr Hywel Griffiths, Prifysgol Aberystwyth
Mari Fflur, cynorthwyydd golygyddol, y Coleg Cymraeg
Dr Manon James, cynorthwyydd golygyddol, y Coleg Cymraeg
Dr Angharad Watkins, golygydd iaith y Coleg Cymraeg
Aelodau’r Bwrdd
Dr Geraint Palmer, Mathemateg, Prifysgol Caerdydd
Dr Gwennan Higham, Cymraeg, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Huw Morgan, Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Philip Jonathan, Mathemateg, Prifysgol Caerhirfryn
Dr Rhian Hodges, Cymdeithaseg, Prifysgol Bangor
Dr Sarah Cooper, Ieithyddiaeth, Prifysgol Bangor
Yr Athro Simon Ward, Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Dr Sioned Vaughan Hughes, Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dr Mirain Rhys, Seicoleg, Prifysgol Met Caerdydd
Dr Rebecca Ward, Seicoleg, Prifysgol De Cymru