Cyfranwyr

A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon? Cyhoeddir Gwerddon o leiaf ddwywaith y flwyddyn a chroesewir erthyglau gan unrhyw ymchwilydd sy’n creu gwaith o safon ryngwladol.

Dylid dilyn canllawiau golygyddol Gwerddon a gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol.

Derbynnir erthyglau ar sail dealltwriaeth nad ydynt wedi eu cyhoeddi eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr awdur sydd yn gyfrifol am sicrhau caniatâd i atgynhyrchu deunydd sydd o dan hawlfraint.

Dylid anfon erthyglau ac ymholiadau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Cyflwynwch eich gwaith erbyn y dyddiadau isod i gael gobaith o gyhoeddi'ch gwaith yn rhifynnau nesaf Gwerddon: 

  • Rhifyn 38 (Hydref 2024) - 31 Mawrth 2024
  • Rhifyn 39 (Mawrth 2025) - 30 Medi 2024

Pam cyhoeddi yn Gwerddon?

1. Mae modd cyhoeddi ar unrhyw bwnc academaidd.

Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau.

2. Barn arbenigol ar eich gwaith a chefnogaeth termau ac iaith. 

Bydd dau arbenigwr yn rhoi barn ysgolheigaidd ar safon eich gwaith ac mae gennym broses arfarnu dwbl-ddall. Pryderu am safon eich Cymraeg? Dilynwch ein canllawiau golygyddol ac fe wnawn ni eich helpu gyda'r gweddill.

3. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

4. Llwyfan rhad ac am ddim i gyhoeddi gwaith academaidd.

Mae Gwerddon hefyd yn agored ac am ddim i'r darllenydd. Mae erthyglau yn cael eu defnyddio ar restrau darllen a'u dyfynnu mewn ymchwil academaidd eraill.

5. Cyfle i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid pob cyfnodolyn sy'n derbyn erthyglau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae cyhoeddi yn Gwerddon yn gyfle i gyfrannu tuag at ddiwylliant academaidd cyfoethog Cymru.

Arfarnwyr  

A oes gennych ddiddordeb mewn darllen ac arfarnu erthyglau Gwerddon? Cyn y cyhoeddir unrhyw erthygl yn Gwerddon, caiff ei darllen a'i harfarnu gan ddau academydd neu ymarferwr/wraig sy'n arbenigwyr yn y maes er mwyn sicrhau bod Gwerddon yn cynnal y safonau ymchwil uchaf ac yn cydymffurfio ag anghenion Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

Rydym yn defnyddio dull arfarnu anhysbys fel nad yw'r sawl sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yn gwybod pwy yw'r arfarnwyr a vice versa.

Gofynnir i arfarnwyr lenwi ffurflen arfarnu a'i dychwelyd at y Cynorthwyydd Golygyddol erbyn y dyddiad a gytunir. 

Os hoffech chi gael eich hystyried fel arfarnwr ar gyfer erthyglau Gwerddon, anfonwch grynodeb o’ch cefndir academaidd neu broffesiynol ynghyd â rhestr fer o'ch arbenigeddau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Canllawiau Golygyddol

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys canllawiau ar sut i baratoi erthygl i'w chyhoeddi yn Gwerddon.

Gofynnir i gyfranwyr sicrhau bod eu herthygl yn cydymffurfio â'r canllawiau cyn ei chyflwyno. Dylid rhoi sylw hefyd i'r Canllaw Iaith.

Canllawiau Golygyddol

Canllaw Iaith

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor ar sut i ysgrifennu ar gyfer Gwerddon. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chymorth i wirio a gloywi iaith. 

Gall deiliaid Ysgoloriaeth Ymchwil a darlithwyr cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dderbyn cefnogaeth iaith gan diwtoriaid iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Canllaw Iaith

Polisi Golygyddol

Cymraeg yw iaith yr erthyglau a gyhoeddir yn Gwerddon. Ceir rhifynnau arferol, sy'n rhyng-ddisgyblaethol, a rhifynnau arbennig, sy'n canolbwyntio ar un pwnc neu faes llafur penodol. Ceir rhagor o wybodaeth yn y polisi golygyddol isod.

Polisi Golygyddol

Trwydded i Gyhoeddi  

Cyn gallu cyhoeddi unrhyw erthygl yn Gwerddon, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig awdur(on) yr erthygl.

Gofynnir i bob cyfrannwr ddarllen telerau'r Drwydded i Gyhoeddi yn ofalus cyn ei llofnodi a'i dychwelyd atom.

Trwydded i Gyhoeddi Yn Gwerddon

LaTeX  

Mae Gwerddon yn derbyn erthyglau ar ffurf Word neu LaTeX.

Gwahoddir awduron sy'n dymuno cyflwyno ar ffurf LaTeX i lawrlwytho a defnyddio'r templed isod. Dylid cyflwyno'r erthygl ar ffurf PDF a chynnwys y ffeil .tex berthnasol hefyd. Dylid dilyn Canllawiau Golygyddol a Chanllaw Iaith Gwerddon wrth baratoi’r erthygl.

Templed Latex

Canllawiau Gwerddon Fach

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys cyngor ar sut i ysgrifennu ar gyfer Gwerddon Fach. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chymorth i wirio a gloywi iaith. 

Manylion llawn

Ymarfer fel Ymchwil

Mae Gwerddon yn croesawu allbynnau sydd ar ffurf ymarfer fel ymchwil.

Gwahoddir awduron i gyflwyno’r allbwn ar ffurf ffeil gyfrifiadurol gyda dogfen ysgrifenedig atodol o hyd at 4,000 o eiriau yn rhoi sylw i’r elfennau canlynol: cyd-destun, cwestiynau ymchwil a methodoleg. Gellir cyflwyno llyfryddiaeth ddethol os yn berthnasol.

Dylid dilyn Canllawiau Golygyddol a Chanllaw Iaith Gwerddon wrth baratoi’r ddogfen.

Rhifynnau Arbennig  

Yn achlysurol cyhoeddir rhifyn arbennig sydd yn canolbwyntio ar bwnc neu thema arbennig. Gwahoddir ceisiadau i gydlynu rhifyn arbennig. Dylid anfon esboniad byr o'r rhesymeg dros wneud cais ynghyd â rhestr o'r erthyglau tebygol at gwybodaeth@gwerddon.cymru.