Polisi Golygyddol
Mae Gwerddon yn gyfnodolyn electronaidd sy'n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd ar draws amrediad eang o ddisgyblaethau. Cymraeg yw iaith yr erthyglau a gyhoeddir yn Gwerddon. Ceir rhifynnau arferol, sy'n rhyng-ddisgyblaethol, a rhifynnau arbennig, sy'n canolbwyntio ar un pwnc neu faes llafur penodol.
Rhifynnau Arferol
Cyhoeddir o leiaf dau rifyn arferol y flwyddyn ar y wefan. Cyhoeddir tair neu bedair erthygl ym mhob rhifyn. Bydd erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn dilyn proses arfarnu annibynnol. Fel rheol, ni fydd Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau sydd wedi ymddangos eisoes mewn cyfnodolyn arall, gydag ambell eithriad yn achos erthyglau a ymddangosodd yn wreiddiol mewn ieithoedd eraill, pan fydd y Golygydd yn barnu bod hynny'n briodol.
Rhifynnau Arbennig
Yn ogystal â'r rhifynnau arferol a gyhoeddir o leiaf ddwywaith y flwyddyn, bydd rhifynnau arbennig o Gwerddon yn ymddangos yn achlysurol. Dylid anfon cynigion i gyhoeddi rhifyn arbennig at y Golygydd gan nodi’r canlynol:
- Amlinelliad o thema’r rhifyn (tua 200 gair).
- Enwau’r cyfranwyr tebygol / posibl.
- Teitlau'r erthyglau ac amlinelliad o’u cynnwys (tua 200 gair yr erthygl). Tair neu bedair erthygl a gyhoeddir ym mhob rhifyn o Gwerddon.
- A fydd y rhifyn yn cynnwys rhagair ai peidio (croesewir rhagair o hyd at 750 gair yn cyflwyno thema'r rhifyn).
- Amserlen paratoi’r erthyglau.
- Statws yr erthyglau – a ydynt wedi eu cyhoeddi eisoes gan gyhoeddwr arall, a ydynt wedi eu harfarnu, ac iaith y cyhoeddiad blaenorol. Cyfrifoldeb yr awdur fydd clirio materion hawlfraint.
Bydd y Golygydd yn penodi cydlynydd gwadd ar gyfer pob rhifyn arbennig, i gydweithio â’r Golygydd a’r Cynorthwyydd Golygyddol er mwyn sicrhau bod yr erthyglau’n cael eu cyflwyno a’u bod yn cydymffurfio â chanllawiau golygyddol Gwerddon. Nid oes dim i rwystro'r rhifyn rhag cynnwys erthygl o eiddo'r cydlynydd gwadd.
Caiff erthyglau eu harfarnu yn unol â chanllawiau Gwerddon a bydd penderfyniad Golygydd Gwerddon parthed y cynnwys a’r amserlen gyhoeddi yn derfynol.