Beth bynnag yw pwnc eich ymchwil, mae lle iddo yn Gwerddon Fach!

Mae Gwerddon Fach yn bartneriaeth rhwng Gwerddon a gwasanaeth newyddion Golwg360. Dyma lwyfan ar gyfer erthyglau academaidd byrion sy'n rhoi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt.

Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn Gwerddon ei hun, mae Gwerddon Fach yn cynnwys erthyglau byrion sy'n oddeutu 600–1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar waith ymchwil diweddar, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys, yn drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bwnc ymchwil dyrys.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, lawrlwythwch copi o'r canllawiau, ac anfonwch eich erthygl at Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon: hmg@aber.ac.uk.

Gwerddon Fach