Beth yw Gwerddon?

Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg.

Cyhoeddir Gwerddon ar-lein o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion.

Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf.

Golygydd Gwerddon yw yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Fe’i cynorthwyir gan yr is-olygydd, Dr Hywel Griffiths, a chan Fwrdd Golygyddol sy'n cynnwys deg ysgolhaig o amryw ddisgyblaethau a sefydliadau addysg uwch Cymru a thu hwnt.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007, ac fe'i gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Bwrdd Golygyddol