Rhifyn 42

Amcanion y tu hwnt i’r gêm: Archwiliad o sut y gall pêl-droed hwyliog adeiladu hyder plant ysgol gynradd yn y Gymraeg

Mae hyrwyddo defnydd naturiol o’r Gymraeg ymhlith plant ysgol gynradd yn allweddol er mwyn cyrraedd targedau Cymraeg 2050. Gan fod llawer o blant yn gweld y Gymraeg fel iaith ffurfiol, mae chwaraeon yn cynnig llwyfan anffurfiol a chymdeithasol i’w defnyddio. Mae’r astudiaeth ansoddol hon yn archwilio effaith sesiynau pêl-droed yn Gymraeg ar 20 o ddisgyblion (8–11 oed) mewn un ysgol gynradd yng ngogledd Cymru, ochr yn ochr â chyfweliad â’r pennaeth. Drwy ddadansoddiad thematig, amlygwyd pum thema: mwynhad, hyder ieithyddol, cefnogaeth gymunedol, hunaniaeth ddiwylliannol a chynaliadwyedd. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu y gall chwaraeon weithredu fel cyfrwng effeithiol ar gyfer cefnogi defnydd naturiol o’r Gymraeg a chyfrannu at ei normaleiddio ymhlith plant ysgolion cynradd. 

Allweddeiriau

Cymraeg, hyder, chwaraeon, plant, hunananiaeth

Cyfeirnod

Hilton, S., Nefydd, E. M., a Jones-Wellstead, I. (2026), ‘Amcanion y tu hwnt i’r gêm: Archwiliad o sut y gall pêl-droed hwyliog adeiladu hyder plant ysgol gynradd yn y Gymraeg’, Gwerddon, 42. https://doi.org/10.61257/GWER4202 

Nôl i erthyglau