Cefndir: Nod yr ymchwil ansoddol hon oedd canfod barn siaradwyr Cymraeg am bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn lansiad y Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru yn 2023.
Dull: Cynhaliwyd gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein er mwyn canfod barn siaradwyr Cymraeg am bresgripsiynu cymdeithasol. Cynhaliwyd y gweithdai ym mis Mai a Mehefin 2024 mewn ystafelloedd cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru ym Mhontypridd.
Canfyddiadau: Roedd ystod eang o ganfyddiadau am bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Roedd rhai yn deall y broses o gyfeirio at weithgaredd cymdeithasol, ond roedd rhai eraill yn dysgu am y broses atgyfeirio cymdeithasol yn ystod y sesiwn wyneb yn wyneb/ar-lein.
Casgliadau: Mae angen lledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth am fuddion presgripsiynu cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Argymhellion ar gyfer polisi: Mae angen codi proffil presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen i’r cyhoedd yng Nghymru wybod bod ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol neu weithwyr cyswllt ynghlwm wrth nifer o feddygfeydd teulu drwy Gymru gyfan a’i bod yn bosibl hunangyfeirio hefyd at ased cymunedol er mwyn cynyddu llesiant a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.
Allweddeiriau
Presgripsiwn cymdeithasol, canfyddiadau, siaradwyr Cymraeg, grwpiau cymdeithasol, cysylltwyr cymunedol.
Cyfeirnod
Spencer, L. H., Newstead, S., a Wallace, C. (2026), ‘Barn siaradwyr Cymraeg am bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru’, Gwerddon, 41. https://doi.org/10.61257/GWER4103.
Arfarnu:
Mae'r erthygl hon wedi cael ei harfarnu gan gymheiriaid drwy broses ddwbl-ddall Gwerddon.
Trwydded
Mae'r erthygl hon wedi’i rhyddhau dan drwydded ryngwladol Creative Commons BY 4.0. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.