Mae’r papur hwn yn dadansoddi cynnwys y Wasg gyfnodol Gymreig ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda ffocws ar y modd y datblygwyd crefydd yn agwedd flaenllaw o’r diwylliant rhyfel yng Nghymru. Fel rhan allweddol o’r gymdeithas sifil, roedd y Wasg yn llwyfan nerthol ar gyfer darbwyllo cynulleidfa, wrth i gyfranwyr uchel eu statws cymdeithasol gyflwyno a dehongli’r rhyfel yn ôl daliadau penodol. Dadl y papur hwn yw y cynhyrchwyd disgwrs grefyddol gref gan sylwebwyr y Wasg Gymreig ynghylch ystyr a phwrpas y rhyfel, gan roi ystyriaeth ddwys i broffwydoliaeth, Iachawdwriaeth, a dyfodiad oes newydd, lle y chwaraeir rôl ganolog gan Gristnogaeth.
Allweddeiriau
Rhyfel Byd Cyntaf, Cymru, y wasg, diwylliant, crefydd.
Cyfeirnod
Powel, M. (2018), ‘“Beth os mai hon yw Armagedon?”: Crefydd a’r Wasg Gymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf’, Gwerddon, 27, 67–94. https://doi.org/10.61257/GKNL5825