Mae’r papur yn adrodd ar dri chyfnod o godi pontydd yng Nghymru. Roedd y cyfnod cyntaf, o amser y Rhufeiniaid hyd at ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol, wedi’i ddominyddu gan y defnydd o ddeunyddiau lleol (carreg a phren) gan grefftwyr lleol. Roedd yr ail gyfnod yn rhan annatod o’r Chwyldro Diwydiannol, pan gafodd deunyddiau newydd ar gyfer codi pontydd (haearn bwrw, haearn gyr a dur) eu datblygu a’u defnyddio wrth adeiladu pontydd camlas a rheilffordd. Roedd y trydydd cyfnod yn gysylltiedig â thwf traffig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth concrid a dur yn brif ddeunyddiau ar gyfer codi pontydd yn ystod datblygiad y cefnffyrdd a’r traffyrdd.
Mae’r papur yn dangos, mewn termau syml, y datblygiadau sylfaenol o ran peirianneg adeiladu a oedd yn sail i’r datblygiadau hyn wrth i ddeunyddiau newydd ddod ar gael i godi pontydd. Yn benodol, trafodir datblygiad croestoriadau trawst, tiwbiau a chyplau amrywiol. Hefyd, rhoddir sylw i gyfraniad sylweddol pedwar codwr pontydd sy’n enwog dros y byd: William Edwards a gododd y bont fwa enwog ym Mhontypridd; Thomas Telford a gododd Ddyfrbont Pontcysyllte a Phont Grog Menai; Robert Stephenson a gododd bontydd tiwb yng Nghonwy a dros y Fenai; ac I. K. Brunel a gododd Bont Reilffordd unigryw Cas-gwent a’r draphont reilffordd bren yng Nglandŵr, Abertawe. Yn olaf, mae’r papur yn tynnu sylw at rai o bontydd unigryw Cymru.
Allweddeiriau
Pontydd, peirianneg, adeiladu.