Rhifyn 35

Credoau am werth cynhenid a pherthynol byd natur: sut maent yn cydberthyn ag ymddygiad cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig?

Mae negeseuon cyhoeddus yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i annog ymddygiad cynaliadwy (h.y. ymddygiad o blaid yr amgylchedd), gan gynnwys pwysleisio gwerth cynhenid natur (gwerth natur y tu hwnt i’w defnyddioldeb i bobl) a gwerth perthynol natur (gwerth perthynas pobl â natur). Yn yr astudiaeth hon, rydym yn cyflwyno canlyniadau arolwg o oedolion yn y Deyrnas Unedig (n = 499) a gwblhaodd holiaduron a oedd yn adlewyrchu gwerth cynhenid natur (credoau gwerth cynhenid a gwerthoedd biosfferig) a dau a oedd yn adlewyrchu gwerth perthynol natur (cysylltedd â natur ac empathi tuag at natur). Adroddodd y sampl eu bod yn cyflawni ymddygiad cost isel yn aml iawn (e.e. cymryd cawodydd byr), ymddygiad treuliant (consumption behaviour) yn llai aml (e.e. prynu cynnyrch gyda llai o ddeunydd pecynnu), ac ymddygiad ymrwymedig yn anaml iawn (e.e. cymryd rhan mewn gwaith cadwraeth). Nid oedd unrhyw newidyn yn darogan ymddygiadau cost isel. Canfuwyd bod gwerthoedd biosfferig a chysylltedd â natur yn darogan ymddygiadau treuliant. Dim ond y credoau gwerth perthynol (cysylltedd ac empathi) a oedd yn darogan ymddygiad ymrwymedig. Mae goblygiadau i’r canlyniadau ar gyfer cyflwyno negeseuon amgylcheddol o safbwynt gwerth cynhenid a pherthynol natur. Gwneir argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn.

Allweddeiriau

Cysylltedd â natur; empathi tuag at natur; gwerthoedd biosfferig; gwerth cynhenid; gwerth perthynol; ymddygiad o blaid yr amgylchedd.

Cyfeirnod

Williams, M. et al., (2023), 'Credoau am werth cynhenid a pherthynol byd natur: sut maent yn cydberthyn ag ymddygiad cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig?', Gwerddon, 35, 26–46. https://doi.org/10.61257/dkcq1171 

Nôl i erthyglau