Yn yr erthygl hon, rydym wedi paratoi sylfaen gadarn er mwyn gallu creu’r PROTACs cyntaf erioed ar gyfer targedu dirywiad y protein prion. Defnyddiwyd cemeg gyfrifiadurol i greu modd rhwymo cynosodedig er mwyn galluogi penderfynu lle i atodi cyd-gysylltydd y PROTAC. Yn sgil hyn, dyluniwyd a syntheseiddiwyd y rhyngolyn GN8 allweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol i adweithio ag adweithredyddion cydgysylltydd ligas E3 i greu’r PROTACs prion cyntaf erioed.
Allweddeiriau
PROTAC, Clefydau Prion, Cemeg Feddyginiaethol, GN8.
Cyfeirnod
Thomas, B., Ward, S., Jones, H., (2025), ‘Creu er mwyn dinistrio: Creu rhyngolyn GN8 anghymesur i drin clefydau prion’, Gwerddon, 40, 49–65. https://doi.org/10.61257/GWER4003