Mae’r erthygl hon yn archwilio elfennau o hunaniaeth gofalwyr di-dâl er mwyn creu adnodd i adnabod eu hanghenion. Ystyrir canfyddiadau’r ymchwil o ran a yw unigolion yn dewis cael eu hadnabod fel ‘gofalwyr’ ai peidio, rhesymau dros ofalu, y newid yn y berthynas rhwng y claf a’r gofalwr a’r effeithiau ar batrwm bywyd, iechyd a lles y gofalwr. Tynnir yr elfennau ynghyd i greu model sy’n amlygu agweddau amrywiol ar roi gofal. Mae’r model yn cydnabod natur berthynol a deuol (dyadic) gweithgareddau gofal a sut y mae profiadau gofalwyr yn rai hylifol. Cyflwynir teipoleg chwe math gwahanol o ofalwr, sef gofalwr annibynnol, gofalwr
achlysurol ‘galw heibio’, gofalwr cyson, gofalwr wedi ei drochi (gofalwr yn rhoi gofal bron 24 awr y dydd trwy’r flwyddyn yn ddi-dor); gofalwr wedi’i ddifreinio a gofalwr colledig cudd. Gwneir argymhellion ar gyfer ymchwil bellach ac ymarfer.
Allweddeiriau
Gofalwyr di-dâl, hunaniaeth, gofalu, polisi, cefnogaeth, perthynas, teulu, rhywedd, gofalwyr
Cyfeirnod
Lloyd, Rh., Davies, M. (2025), ‘Creu model hunaniaeth gofalwyr di-dâl yn seiliedig ar eu hanghenion a’u profiadau byw’, Gwerddon, 39, 51–73. https://doi.org/10.61257/HEOY7443