Rhifyn 34

Cyfeiriad polisi dwyieithog Addysg Uwch De Corea yn y dyfodol: dysgu o gyd-destun y Gymraeg

Mae’r papur hwn yn cysyniadu polisi dwyieithog ar gyfer dyfodol arferion cyfrwng Saesneg Addysg Uwch De Corea trwy dynnu ar ymchwil a gynhaliwyd yng nghyd-destun y Gymraeg. Yn gyntaf, defnyddir hunanethnograffeg i roi trosolwg byr o’r ddarpariaeth Addysgu Cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch yng Nghymru ac yna er mwyn beirniadu gweithrediad polisi Addysgu Cyfrwng Saesneg neo-ryddfrydol presennol De Corea. Yna, cyflwynir disgrifiad o ganfyddiadau myfyrwyr De Corea o’r heriau ieithyddol sy’n deillio o arferion yr ystafell ddosbarth. Dilynir yr adroddiad hwn gan ddadl bod polisi De Corea yn arwain at anghyfiawnder epistemig. Er mwyn ymateb yn bragmataidd i’r anghyfiawnder hwn, mae’r astudiaeth hon yn myfyrio ar sut y gall canlyniadau prosiect dwyieithog a gynhaliwyd mewn Addysg Uwch yng Nghymru awgrymu cyfeiriad ar gyfer polisi Addysgu Cyfrwng Saesneg De Corea yn y dyfodol. 

Allweddeiriau

De Corea, Addysg Cyfrwng Saesneg, anghyfiawnder epistemig, amlieithrwydd, Addysg Uwch.

Cyfeirnod

Williams, D. (2022), ‘Cyfeiriad polisi dwyieithog Addysg Uwch De Corea yn y dyfodol: dysgu o gyd-destun y Gymraeg’, Gwerddon, 34, 46–67. https://doi.org/10.61257/VDRV7027 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-8995-1579
Nôl i erthyglau