Rhifyn 37

Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd

Dywedir yn aml fod sefydliadau gwleidyddol datganoledig Cymru’n dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’, sydd yn gysylltiedig â ‘diffyg cyfryngau’. Mae’r erthygl yma’n defnyddio athroniaeth wleidyddol Jürgen Habermas i ddadansoddi’r honiadau hyn. Dechreuir trwy drafod y broblem ganolog a chymhwyso damcaniaeth Habermas ynghylch cyfreithusrwydd ati (1), cyn troi at gysyniad allweddol y ddamcaniaeth, sef y gyhoeddfa (2). Mae rhan 3 yn dadlau bod diffyg cyhoeddfa wleidyddol anffurfiol yng Nghymru heddiw a bod hyn yn tanseilio cyfreithusrwydd y drefn wleidyddol ddatganoledig, gan gefnogi’r ddadl yma gyda data (3). Mae rhan olaf yr erthygl yn gosod achos Cymru mewn cyd-destun ehangach, ac yn agor trafodaeth ar atebion posib (4).

Allweddeiriau

cyfryngau, Cymru, cyhoeddfa, cyfreithusrwydd, datganoli, democratiaeth, Habermas.

Cyfeirnod

Rees, D. (2024), 'Cyfreithusrwydd Gwleidyddol a’r Gyhoeddfa Gymreig: Dadansoddiad Habermasaidd', Gwerddon, 37, 62–82. https://doi.org/10.61257/HEOY7437

Nôl i erthyglau