Archwilia’r erthygl hon y cysyniad Cymreig o ‘gynefin’ fel term amlhaenog sy’n destun trafodaeth ddiwylliannol, lenyddol ac addysgol o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw. Wedi’i wreiddio’n etymolegol mewn syniadau o gynefin amgylcheddol, arferion a safle cyfarwydd, mae cynefin yn hanesyddol yn dynodi’r strwythurau etifeddol o berthyn a oedd yn rhwymo unigolion wrth dir, perthnasau a chymuned (Pryce 2022). Yn ddiweddar, enillodd ‘cynefin’ amlygrwydd newydd wrth gael ei ymgorffori yn y Cwricwlwm i Gymru, lle y gweithreda fel egwyddor gwricwlaidd ac fel polisi-addysgeg hybrid (Davis a Conn 2024). Tra cynigia hwn gyfleoedd ar gyfer addysgeg wedi ei selio ar ddiwylliant, mae perygl hefyd o eithrio cymdeithasol os caiff y term ei leihau i haniaethu biwrocrataidd neu ffurfiau cul o berthyn (Davies 2025). Drwy integreiddio hanes llenyddol-ddiwylliannol, dadansoddi disgwrs ac astudiaethau polisi, dengys yr erthygl sut y gweithreda ‘cynefin’ fel cyfeiriadedd deinamig yn hytrach na chategori sefydlog. Daw i’r casgliad bod cyfoeth y cysyniad yn gorwedd yn ei ddidwylledd: wedi’i wreiddio mewn hanes a thraddodiad, ond eto’n gallu cynnal amryfal hunaniaethau ac arferion addysgol cynhwysol yn y Gymru gyfoes.
Allweddeiriau
cynefin, perthyn, llenyddiaeth, diwylliant, addysg, hanes, polisi, Cwricwlwm
i Gymru
Cyfeirnod
Davies, G., a Hughes, S. (2026), ‘Cynefin: Lle, perthyn a dychymyg diwylliannol mewn hanes, llenyddiaeth ac addysg’, Gwerddon, 42. https://doi.org/10.61257/GWER4201