Rhifyn 37

‘Cythryblus a thrychinebus’: Gwrthryfel y Pasg, 1916, a’r Wasg Gymreig

Fe esgorodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916 ar gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at annibyniaeth rhan sylweddol o’r ynys, ond ar y pryd nid oedd gwerthfawrogiad o’i arwyddocâd yng Nghymru. I fwyafrif helaeth y Cymry, roedd hon yn weithred fradwrol, gan ei bod yn digwydd ar adeg pan oedd Iwerddon (fel gweddill y Deyrnas Gyfunol) yng nghanol rhyfel gwaedlyd na welwyd ei fath o’r blaen. Mae’r erthygl hon yn olrhain sut yr edrychwyd ar ddigwyddiadau yn Iwerddon yng nghyd-destun y rhyfel yn erbyn yr Almaen, a’r modd yr oedd y cysyniad ei bod yn fuddiol i Iwerddon (fel Cymru) aros yng nghôl yr Ymerodraeth Brydeinig wedi ei wreiddio mor ddwfn fel nad oedd modd ei herio.

 

Gweler isod fideo gan Dr Gethin Matthews yn crynhoi ei erthygl.

 

Allweddeiriau

Gwrthryfel y Pasg, Rhyfel Mawr, Ymerodraeth, Militariaeth, Cymru ac Iwerddon, Papurau Newydd, Owen M. E,dwards, Sinn Féin

Cyfeirnod

Matthews, G. (2024), '"Cythryblus a thrychinebus": Gwrthryfel y Pasg, 1916, a’r Wasg Gymreig ', Gwerddon, 37, 19–40. https://doi.org/10.61257/DJPZ1906 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-1373-8771
Nôl i erthyglau