Bwriad yr erthygl hon yw dadansoddi’r gwahanol ddarlleniadau a gafwyd o hanes y Wladfa o fewn naratifau swyddogol o orffennol talaith Chubut yn yr Ariannin. Cynhwysa hyn gynnyrch y wladwriaeth daleithiol, ond hefyd eiddo actorion eraill yng nghymdeithas Chubut, gan gynnwys y gymuned Gymreig ei hun. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntir ar y deongliadau a gynhyrchwyd dros dri chyfnod: yn gyntaf, rhwng y 1930au a 1955, pan oedd Chubut yn diriogaeth genedlaethol; yn ail, cyfran o flynyddoedd cyntaf bodolaeth talaith Chubut rhwng 1958 a 1975; ac yn olaf, rhwng y 1980au a’r presennol, gyda ffocws ar ddathliadau’r canmlwyddiant a hanner (ers glaniad y gwladfawyr cyntaf) yn 2015. Ystyrir hefyd y newidiadau a welwyd rhwng naratifau hanesyddol gwahanol, yn ogystal â’r elfennau o barhad rhyngddynt. Trwy gydol y tri chyfnod hyn, dangosir bod naratifauswyddogol o orffennol Chubut wedi gosod hanes y gwladychu Cymreig yn gonglfaen ar gyfer sefydlu’r dalaith, gan roi rôl hegemonaidd i’r hanes hwn.
Allweddeiriau
Hanes, cof, naratifau swyddogol, Y Wladfa, Chubut, Patagonia, Yr Ariannin.
Cyfeirnod
Williams, G. (2023), 'Darllen ac ysgrifennu gorffennol y Wladfa: dadleuon am hanes a chof yn ymsefydliad Cymreig Chubut' (cyf. Brooks, W.), Gwerddon, 36, 28-48. https://doi.org/10.61257/GIST9419