Bwriad yr erthygl hon yw llunio hanes y system ddyfrhau yn Nyffryn Camwy a grëwyd gan y gwladfawyr Cymreig a gyrhaeddodd Batagonia (yn yr Ariannin) ym 1865, gan gymhlethu’r berthynas a oedd yn bodoli rhwng y seilwaith hwn a’r fframwaith cymdeithasol-wleidyddol newidiol. Bydd hyn yn cynnwys rhoi sylw i’r sefydliadau a grëwyd gan y gwladfawyr eu hunain ac i’r gwrthdaro a fu rhyngddynt a gwladwriaeth yr Ariannin a ddaeth yn gyfrifol am y weinyddiaeth ddyfrhau ym 1943. Rhoddir pwys ar alluedd (agency) dŵr o fewn y broses a arweiniodd at atgyfnerthu ac ehangu’r seilwaith dyfrhau, a rhoddir sylw hefyd i ddimensiwn symbolaidd y gwrthrychau sy’n rhan o’r seilwaith hwnnw gan fyfyrio ar eu hystyr newidiol.
Allweddeiriau
Y Wladfa, Patagonia, dyfrhau, sefydliadau, y Gymraeg, llifogydd, argae, gwladoli, hunaniaeth, gwrthdaro.
Cyfeirnod
Williams, F. (2023), 'Dŵr a Phŵer yn Nyffryn Camwy: heriau a gwrthdaro ynghylch sefydlu a rheoli system ddyfrhau' (cyf. Brooks, W.), Gwerddon, 36, 1-27. https://doi.org/10.61257/MOPO4816