Rhifyn 35

Gwerthuso’r proffiliwr-PERMA i nodi a chefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion wrth bontio i’r ysgol uwchradd

Mae iechyd meddwl gwael a diffyg lles yn broblem ddigynsail ymhlith plant heddiw. Cynigia Seligman (2011) y dylid gofalu am les a hapusrwydd drwy ddulliau seicoleg bositif. Mae asesiad PERMA (Positive emotion, Engagement, Relationships, Meaning, Accomplishments/Achievements) (Butler a Kern 2015) yn gofyn i unigolion hunanasesu i ba raddau y maent yn ‘ffynnu’. Bwriad y prosiect peilot hwn oedd asesu gwerth y proffiliwr-PERMA fel teclyn i adnabod agweddau ar iechyd meddwl a lles cyffredinol disgyblion blwyddyn 7 mewn tair ysgol uwchradd. Yn dilyn yr holiadur cyntaf, cynigwyd ystod o strategaethau dylunio cyffredinol i athrawon eu defnyddio cyn asesu eto ar ddiwedd y tymor. Awgryma’r canlyniadau werth teclyn hunanasesu i nodi lefelau cyffredinol iechyd meddwl a lles disgyblion ac i nodi’r unigolion hefyd sydd yn debygol o brofi anawsterau dwys yn ddiweddarach.

Allweddeiriau

Iechyd a lles, disgyblion, ysgol uwchradd, pontio, seicoleg cadarnhaol, PERMA.

Cyfeirnod

Packer, R., Pierce, A., a Salter, D. (2023), 'Gwerthuso’r proffiliwr-PERMA i nodi a chefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion wrth bontio i’r ysgol uwchradd', Gwerddon, 35, 1–25. https://doi.org/10.61257/oiqx9411 

Nôl i erthyglau