Mae’r erthygl hon yn archwilio lle’r Gymraeg yng ngweithiau Charles Edwards, ymneilltuwr a Phresbyteriad a oedd ynghlwm wrth rai o brif fentrau Cymraeg ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Dadleuir bod y Gymraeg yn bwysig i Edwards, ac na ddefnyddiai’r iaith am resymau pragmataidd yn unig. Gwerthfawrogai’r Gymraeg mewn fframwaith Protestannaidd a oedd yn pwysleisio’r rhyngddibyniaeth rhwng crefydd, iaith a llenyddiaeth, a dysg. Mae’n dyrchafu’r Gymraeg fel iaith hynafol, ddysgedig, a chain a chanddi gysylltiadau ag ieithoedd eraill o bwys fel yr Hebraeg a Groeg yn ei glasur Y Ffydd Ddi-ffuant (1667, 1671, 1677) a’r Hebraismorum Cambro-Britannicorum Specimen (1675), testun nad yw wedi derbyn gymaint o sylw â hynny.
Allweddeiriau
Llenyddiaeth Gymraeg, yr ail ganrif ar bymtheg, Cristnogaeth, y Gymraeg, Charles Edwards, y cyfnod modern cynnar, dysg.