Mae’r erthygl yn dadansoddi safbwyntiau staff y diwydiant digwyddiadau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig (gan gynnwys staff lleoliadau, trefnwyr a darparwyr tocynnau) ynghylch marchnata pecynnau VIP/lletygarwch. Yn dilyn cyfres o gyfweliadau, cyflwynir dadansoddiad o themâu allweddol, gan gynnwys demograffeg (ar sail oed, incwm a’r math o brynwr, e.e. y cyhoedd neu gorfforaethol), ymddygiad cwsmeriaid wrth brynu, prisio, cydrannau’r pecynnau a’r geiriau a ddefnyddir wrth ddisgrifio’u cynnwys, a dulliau addasu a chyd-greu pecynnau. Cyflwynir canlyniadau holiadur ar gyfer cwsmeriaid, gyda chymhariaeth rhwng y garfan o Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig, lle y ceir cefnogaeth oddi wrth gwsmeriaid mewn perthynas â rhoi’r modd iddynt addasu eu pecynnau eu hunain, sy’n gwneud y cwsmeriaid yn rhan o’r broses o greu ar y cyd â’r diwydiant. Datblygir model er mwyn osgoi camfarchnata digwyddiadau.
Allweddeiriau
Marchnata, Tocynnau, Cyd-greu, Adloniant, Chwaraeon
Cyfeirnod
Fry, J., Fuller-Love, N., Owen, R. (2025), ‘Marchnata tocynnau VIP a lletygarwch: dadansoddiad cymharol o safbwyntiau cwsmeriaid a’r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig’, Gwerddon, 39, 23–50. https://doi.org/10.61257//HEOY7442