Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a’r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau’n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a’r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o’r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd.
Allweddeiriau
Duns Scotus, Cyfraith Hywel, cyfraith naturiol, Gododdin, Genesis, etifeddiaeth, caethwasiaeth, priodas, sofraniaeth.
Cyfeirnod
Moseley, C. (2016), ‘Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?’, Gwerddon, 21, 48–64. https://doi.org/10.61257/YAWO7570