Mae’r erthygl hon yn trafod dwy agwedd ar allbwn Grace Williams (1906–1977) sydd wedi eu hesgeuluso o’r llyfryddiaeth gyfredol amdani, sef ei threfniannau lleisiol o alawon gwerin Cymreig a’i hunig opera, ‘The Parlour’. Gan gofio mai â cherddoriaeth gerddorfaol y cysylltir Grace Williams yn bennaf, mae’r gwaith yn adlewyrchu’r awydd i ymchwilio a rhoi sylw haeddiannol i’r gweithiau a anwybyddwyd yn y gorffennol. Pwysleisir yr angen i ailystyried arwyddocâd y trefniannau gwerin a’r opera er mwyn cael darlun cyflawn o allbwn y gyfansoddwraig. Sail y darganfyddiadau yw gwaith ymchwil a gyflwynwyd eisioes fel gradd MARes (MA trwy ymchwil) (Prifysgol Bangor 2022) ac ymchwil gyfredol ar gyfer gradd ddoethur sydd i’w chwblhau yn y blynyddoedd nesaf.
Allweddeiriau
Grace Williams, The Parlour, trefniannau gwerin, cerddoriaeth Cymru, cyfansoddwyr o Gymru, gweithiau anghofiedig, cofiant cerddorol