Rhifyn 38

‘O sero i dri chant’: technegau caffael dwys ar gyfer y 300 gair cynnwys a ddefnyddir amlaf yn y Gymraeg

Mae’r erthygl hon yn amlinellu ymchwil a gynhaliwyd ymhlith dysgwyr Cymraeg sy’n ddechreuwyr wrth iddynt gaffael geirfa Gymraeg a ddefnyddir yn aml. Gofynnwyd i 23 chyfranogwr ddysgu 300 gair cynnwys dros 50 diwrnod (10 munud y dydd) gan ddefnyddio cardiau fflach. Rhoddwyd gwybodaeth am dechnegau i gefnogi eu dysgu, fel y dull allweddeiriau a rhoi sylw i rannau o eiriau. Datgelodd profion yn syth ar ôl dysgu a phrofion wedi’u hoedi wahaniaethau sylweddol rhwng ‘dysgadwyedd’ a dargadwedd (retention) y geiriau targed. Cafwyd gwybodaeth fanwl am brofiad dysgu’r cyfranogwyr trwy holiadur ar ddiwedd yr astudiaeth, a gwelwyd bod y dysgwyr mwyaf llwyddiannus yn defnyddio dulliau systematig iawn er mwyn dethol ac adolygu geiriau, ac yn defnyddio techneg allweddeiriau. Ar sail hyn, defnyddir rhestr o eiriau wedi’u trefnu yn ôl ‘dysgadwyedd’, ac mae sylwadau ar dechnegau dysgu gan gyfranogwyr a gafodd sgôr uchel yn darparu gwybodaeth ar gyfer adolygu deunyddiau dysgu.

Allweddeiriau

Caffael geirfa, dysgu Cymraeg, dysgu ac addysgu ieithoedd, ieithyddiaeth gymhwysol, dysgadwyedd geiriau, baich dysgu, cardiau fflach geirfa, dull allweddeiriau

Cyfeirnod

Fitzpatrick, T., Morris, S. (2024), '‘O sero i dri chant’: technegau caffael dwys ar gyfer y 300 gair cynnwys a ddefnyddir amlaf yn y Gymraeg', Gwerddon, 38, 22–76. https://doi.org/10.61257/HEOY7440

Nôl i erthyglau