Mae’r erthygl hon yn archwilio’r modd y portreadwyd menywod yn ystod Streic Fawr y Penrhyn (1900–03), sef un o wrthdrawiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y mudiad llafur yng Nghymru. Trwy ddadansoddi casgliad o gartwnau gan J. R. Lloyd Hughes a gyhoeddwyd yn Papur Pawb, cyflwynir dadansoddiad o’r ffordd y bu’r wasg leol yn creu ac atgyfnerthu delweddau cymhleth o fenywod mewn cyd-destun o wrthdaro diwydiannol a thrawsnewid cymdeithasol.
Canolbwyntir ar dri phrif fath o gynrychiolaeth: y Dioddefwyr Tawel, sy’n adlewyrchu disgwyliadau traddodiadol o fenywod fel ffigyrau goddefol a domestig; cymeriadau poblogaidd fel Jenny a Shan, sy’n gweithredu fel llais satiraidd ac weithiau’n herio normau rhywedd; a’r Ymgyrchwyr, sef menywod gweithgar a lleisiol a ddangosir yn cymryd rhan uniongyrchol mewn protestiadau a gwrthdaro. Mae’r categorïau hyn yn dangos sut y gwnaeth delweddau menywod weithredu’n symbolaidd ac yn wleidyddol, gan lunio’r ddealltwriaeth gyhoeddus o’u rôl yn y streic.
Gosodir y darluniau hyn yng nghyd-destun ehangach diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, gan ystyried croestoriadau imperialaeth, Cymreictod a dosbarth. Gan adeiladu ar waith ysgolheigion megis Peter Lord a Chris Williams, mae’r erthygl yn dadlau bod y cartwnau hyn yn ffynonellau hanfodol ar gyfer astudio profiadau a gweithrediadau menywod, yn ogystal â deall sut y ffurfiwyd hunaniaeth genedlaethol a chymdeithasol Cymru ar droad yr ugeinfed ganrif. Yn y modd hwn, mae’r astudiaeth yn cyfrannu at hanes menywod Cymru ac at y maes ehangach o ddiwylliant gweledol.
Allweddeiriau
Streic, Cymru, Merched, Penrhyn, Portreadau, Chwarel, Papurau Newydd, Hanes, Cartwnau
Cyfeirnod
Owen, T. (2025), ‘Portreadau o fenywod yng nghartwnau Papur Pawb yn ystod cyfnod Streic Fawr y Penrhyn, 1900–1903’, Gwerddon, 40, 22–48. https://doi.org/10.61257/GWER4002