Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw. Ceir awgrym yn ogystal o hyd a lled y trosglwyddo technolegol o Gymru i Ffrainc ar y pryd, a thystiolaeth fod y diwydianwyr yng Nghymru yn gofidio am ysbïo diwydiannol. Yn dilyn priodas Louise Dufaud a George Crawshay, allforiwyd gweithlu a pheiriannau o Gymru (Abaty Nedd) i Ffrainc, a chwaraeodd hyn ran allweddol yn natblygiad gweithfeydd haearn Fourchambault ger Nevers.
Allweddeiriau
Merthyr, Dufaud, Crawshay, haearn, Cymru, Fourchambault, Nevers, cysylltiadau diwydiannol
Cyfeirnod
Williams, H. (2024), 'Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg', Gwerddon, 37, 1–18. https://doi.org/10.61257/AWEY5910