Mae’r erthygl hon yn dadansoddi llywodraethiant mewnfudo yng Nghatalwnia, gan ganolbwyntio’n benodol ar y mesurau iaith mewn addysg a roddir ar waith i addysgu’r Gatalaneg i fewnfudwyr. Canolbwyntir yn benodol ar y rhaglen Voluntariat per la llengua (VxL), sef prif weithgaredd y Consorci per a la Normalització Lingüística (CPNL), y prif ddarparwr ffurfiol ar gyfer addysgu’r Gatalaneg i oedolion yng Nghatalwnia, ynghyd â swyddogaeth siaradwyr Catalaneg mewn ymdrechion i integreiddio mewnfudwyr yn ieithyddol. Dadleuir bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifoedd yn ganolog i’r broses o addysgu Catalaneg i fewnfudwyr, a bod eu cyfranogiad mewn polisïau a phrosiectau ieithyddol yn cyfrannu at gydlyniad cymdeithasol a chysylltiadau rhwng grwpiau yn ogystal â chynaliadwyedd y Gatalaneg. Felly, gyda chynllunio iaith pwrpasol, gall mewnfudwyr a siaradwyr iaith leiafrifol gryfhau neu adnewyddu sefyllfa iaith leiafrifol.
Allweddeiriau
Mewnfudo, Catalwnia, polisi iaith mewn addysg, Voluntariat per la llengua, rhyngddiwylliannedd.
Cyfeirnod
Edwards, C. (2020), ‘Seduir, seduce, més que dir que han de fer català: Astudiaeth o bolisïau iaith mewn addysg, integreiddio a mewnfudo rhyngwladol yng Nghatalwnia’, Gwerddon, 31, 83–111. https://doi.org/10.61257/RILP6008