Mae mwy o gyfieithu nag erioed o’r blaen yn digwydd yng ngweinyddiaethau cyhoeddus Cymru yn dilyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Gan ddefnyddio gwaith y theorïwr diwylliannol o Gatalwnia, Josep-Anton Fernàndez, dadansodda’r erthygl hon y defnydd o gyfieithu Saesneg-Cymraeg yng nghyd-destun normaleiddio ieithyddol, gan ofyn a oes perthynas bellach rhwng gorddibynnu ar gyfieithu a’r syniad o anhwylder yn y gyhoeddfa Gymraeg. Gan ystyried cymaryddion rhyngwladol a chan ganolbwyntio ar Wlad y Basg yn fwy penodol, â’r erthygl rhagddi i awgrymu dulliau polisi cyflenwol a fyddai’n darparu gwasanaethau dwyieithog ar sail fwy dinesydd-ganolog, cydlynus a chyfannol. Awgrymir y byddai datblygiad polisi o’r fath o gymorth i ddinasyddion Cymru fwynhau agweddau neilltuol a chyfanfydol ar eu bywydau.
Allweddeiriau
cyfieithu, normaleiddio, anhwylder, Josep-Anton Fernàndez, neilltuol, cyfanfydol
Cyfeirnod
Carlin, P. (2025), ‘Seren Wen ar Gefndir Gwyn? Anhwylder a chyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth gyhoeddus Cymru’, Gwerddon, 39, 1–22. https://doi.org/10.61257/HEOY7441