Rhifyn 24

Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?

Roedd Syr Siôn Prys (1501/2‒1555), o Aberhonddu, ymhlith y mwyaf dylanwadol o weision y Goron yng Nghymru a’r Gororau mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol a chrefyddol mawr. Roedd hefyd yn un o’r Cymry cyntaf i ymateb yn gadarnhaol i rai o’r pwysleisiau diwylliannol a deallusol newydd a gysylltid â’r Dadeni Dysg. Yn yr ysgrif hon trafodir y tensiwn rhwng, ar y naill law, ei ddysg a’i safbwynt dyneiddiol ac, ar y llaw arall, ei ymlyniad wrth y fersiwn o hanes Prydain a gyflwynid yng ngwaith Sieffre o Fynwy (12g.) ac y gwrthodwyd bron y cyfan ohono gan yr Eidalwr Polidor Vergil mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn y 1530au.

Allweddeiriau

Syr Siôn Prys, Dadeni Dysg, dyneiddiaeth, canoloesoldeb, Sieffre o Fynwy, Polydore Vergil.

Cyfeirnod

Davies, C. (2017), 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?', Gwerddon, 24, 8–21. https://doi.org/10.61257/RLSS7400 

Nôl i erthyglau