Mae’r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru eisoes yn arf cynllunio ieithyddol effeithiol er mwyn trosglwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae cynnydd amlwg ymhlith siaradwyr Cymraeg 3–15 oed, ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru ers canlyniadau Cyfrifiad 1991. Bwriad y papur hwn yw mynd tu hwnt i’r ystadegau meintiol a chanolbwyntio ar yr ansoddol drwy ddarganfod y prif resymau paham y mae rhieni yn dewis y system addysg hon i’w plant. Lleoliad yr astudiaeth yw Cwm Rhymni, sir Gaerffili. Gweinyddwyd ymhlith rhieni sectorau’r ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yng Nghwm Rhymni gyfuniad o holiaduron meintiol a chyfweliadau ansoddol dwys er mwyn cyflawni’r astudiaeth hon. Y rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn ôl rhieni sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd y sampl oedd rhesymau diwylliannol, addysgol, economaidd a phersonol, fel ei gilydd. Fodd bynnag, rhaid nodi o’r cychwyn mai rhesymau diwylliannol yw prif resymau rhieni’r ardal dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant, yn hytrach na rhesymau economaidd a nodwyd mewn sawl astudiaeth flaenorol megis astudiaeth Williams et al. (1978) ar addysg ddwyieithog yn y Rhondda. Cam cyntaf mewn corpws o waith i’r dyfodol yw’r astudiaeth ac un sy’n gobeithio llenwi’r lacunae presennol ym maes Cymdeithaseg Iaith yng Nghymru, yn arbennig o ystyried bod yna ddiffyg amlwg mewn astudiaethau Cymdeithaseg Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.
Allweddeiriau
Addysg Gymraeg, Cwm Rhymni, cymdeithaseg iaith.
Cyfeirnod
Hodges, Rh. (2010), '"Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni', Gwerddon, 6, 9-33. https://doi.org/10.61257/LTJM7319