Roedd Gwrthryfel y Pasg 1916 yn sbardun diwylliannol a arweiniodd yn y pen draw at ffurfio Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1921. Hefyd, roedd y gwrthryfel yn ddigwyddiad enghreifftiol i fudiadau cenedlaetholgar gwrth-imperialaidd yn fyd-eang, gan gynnwys yng Nghymru. Bydd yr erthygl hon yn edrych ar ei effaith yng Nghymru drwy ganolbwyntio ar ddau o brif benseiri Plaid Genedlaethol Cymru, sef Saunders Lewis a Lewis Valentine. Ar draws Môr Iwerddon, yng Nghymru, cafodd Lewis a Valentine eu hysbrydoli gan ymdrechion cenedlaetholdeb Gwyddelig. Yn benodol, canolbwyntir ar y dylanwad Gwyddelig ar benderfyniad tri aelod o’r blaid i losgi’r ysgol fomio gan aberthu eu rhyddid. Bydd yr erthygl hon yn dadlau bod cenedlaetholdeb Gwyddelig wedi cael effaith ddofn ar weledigaeth Lewis a Valentine o Gymru a’u hymgyrch genedlaetholgar. Bydd yn canolbwyntio’n arbennig ar sut yr ysbrydolwyd dulliau diwylliannol, cyfansoddiadol ac anghyfansoddiadol Plaid Genedlaethol Cymru gan esiampl cenedlaetholwyr Gwyddelig.
Allweddeiriau
Saunders Lewis, Lewis Valentine, Plaid Cymru, Gwrthryfel y Pasg, Ymerodraeth, Cymru ac Iwerddon, Sinn Féin.
Cyfeirnod
Wall, E. (2025), ‘Y Ddraig Goch yn clywed y delyn Wyddelig: dylanwad cenedlaetholdeb Iwerddon ar Blaid Genedlaethol Cymru, 1925–1936’, Gwerddon, 66–87. https://doi.org/10.61257/GWER4004.