Mae athrawiaeth John Rawls ynghylch rhyfel cyfiawn yn cael ei dehongli’n bennaf fel estyniad ar ddamcaniaeth Walzer. Fodd bynnag, o’i ystyried yng ngoleuni ymrwymiad Rawls i feirniadaeth Kant, a natur iwtopaidd ei fyfyrdodau ar gysylltiadau rhyngwladol yn The Law of Peoples, ymddengys ei safbwynt ar ryfel yn un nodedig a beiddgar. Mae dylanwad Kant yn amlwg ar ei athrawiaeth soffistigedig, sydd wedi ei nodweddu gan heddwch fel egwyddor lywodraethol rhyfel, ac egwyddorion rhyfel cyfiawn sydd yn gyfystyr â chyfiawnder dros dro, nad ydynt byth yn gwbl gyfiawn. Daw persbectif sgeptigol i’r amlwg felly sy’n gwrthod estyn ei athrawiaeth ar ryfel cyfiawn i ryfela dyngarol. Colomen yn hytrach na hebog fyddai’r gwladweinydd Rawlsaidd, wedi’i ymrwymo i’r gred fod rhyfel yn ddrygioni i’w osgoi a’i orchfygu, a bod modd gweithio tuag at heddwch parhaol.
Allweddeiriau
John Rawls, Rhyfel Cyfiawn, Cyfraith y Pobloedd, Ymyrraeth Ddyngarol, Kant