Rhifyn 31

Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn (enillydd Gwobr Gwerddon 2019–21)

Mae athrawiaeth John Rawls ynghylch rhyfel cyfiawn yn cael ei dehongli’n bennaf fel estyniad ar ddamcaniaeth Walzer. Fodd bynnag, o’i ystyried yng ngoleuni ymrwymiad Rawls i feirniadaeth Kant, a natur iwtopaidd ei fyfyrdodau ar gysylltiadau rhyngwladol yn The Law of Peoples, ymddengys ei safbwynt ar ryfel yn un nodedig a beiddgar. Mae dylanwad Kant yn amlwg ar ei athrawiaeth soffistigedig, sydd wedi ei nodweddu gan heddwch fel egwyddor lywodraethol rhyfel, ac egwyddorion rhyfel cyfiawn sydd yn gyfystyr â chyfiawnder dros dro, nad ydynt byth yn gwbl gyfiawn. Daw persbectif sgeptigol i’r amlwg felly sy’n gwrthod estyn ei athrawiaeth ar ryfel cyfiawn i ryfela dyngarol. Colomen yn hytrach na hebog fyddai’r gwladweinydd Rawlsaidd, wedi’i ymrwymo i’r gred fod rhyfel yn ddrygioni i’w osgoi a’i orchfygu, a bod modd gweithio tuag at heddwch parhaol.

Allweddeiriau

John Rawls, Rhyfel Cyfiawn, Cyfraith y Pobloedd, Ymyrraeth Ddyngarol, Kant

Cyfeirnod

Huw L. Williams, Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn, Gwerddon, 31, Hydref 2020, 7-30

DOI

10.61257/EHQF3839

Nôl i erthyglau