Pwrpas yr erthygl hon yw dangos bod rheolau sgrym Rygbi’r Undeb yn wallus. Mae annhegwch yn anorfod wrth geisio dehongli a gweithredu’r rheolau hyn. Gan fod y sgrym yn ddigwyddiad cydweithredol a chystadleuol sy’n gofyn am ystod o sgiliau a thechnegau cymhleth, mae’n amhosibl i ddyfarnwr benderfynu yn ddibynadwy pwy sydd yn gyfrifol am droseddu. O ganlyniad, mae chwaraewyr yn aml yn cael eu cosbi yn annheg. Gall y gosb fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm. Nid y chwaraewyr a gosbwyd a achosodd y drosedd o reidrwydd, ac felly nid ydynt yn foesegol gyfrifol amdani. O dan rai amgylchiadau ni allant wrthsefyll y grymoedd sy’n gweithredu arnynt. Er mwyn datrys y sefyllfa rhaid ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwella tegwch a thanseilio rhinweddau adloniadol y gêm.
Allweddeiriau
Rygbi, sgrym, dyfarnwr, chwaraeon, moeseg, teilyngdod, tegwch, braint epistemolegol, awdurdod ontolegol, trosedd, rheolau.