Rhifyn 40

Ymgynghoriadau newid ymddygiad iechyd drwy gyfrwng iaith gyntaf yr unigolyn: astudiaeth ansoddol ar sail Theori Hunanbenderfyniad

Gall unigolion dwyieithog gyfleu ymatebion emosiynol cryfach yn eu hiaith gyntaf a all arwain at newid ymddygiad. Nod yr astudiaeth oedd archwilio safbwyntiau unigolion ynghylch ymgynghoriadau newid ymddygiad yn eu hiaith gyntaf neu ieithoedd eraill. Defnyddiwyd dull ansoddol drwy 12 cyfweliad lled-strwythuredig a ddadansoddwyd gan ddefnyddio dull thematig. Mapiwyd y themâu ac is-themâu i’r Theori Hunanbenderfyniad, sef Ymreolaeth, Perthynasrwydd a Chymhwysedd.

 

Noda’r canlyniadau fod cynnal ymgynghoriadau yn iaith gyntaf yr unigolyn, hyd yn oed os nad ydynt wedi’u cynnal yn gyfan gwbl yn yr iaith gyntaf, yn gallu cymell yr unigolyn i newid ei ymddygiad iechyd. Mae’r canlyniadau’n crybwyll bod angen rhagor o hyfforddiant ac adnoddau iaith ar ymgynghorwyr er mwyn gallu darparu cynnig gweithredol a fydd yn annog y claf i wneud ei benderfyniadau ei hun am ei ofal, a all arwain at newid ymddygiad iechyd.

Allweddeiriau

cyfweld cymhellol, theori hunanbenderfyniad, newid ymddygiad, iaith frodorol, dwyieithrwydd

Cyfeirnod

James, D. et al., (2025), ‘Ymgynghoriadau newid ymddygiad iechyd drwy gyfrwng iaith gyntaf yr unigolyn: astudiaeth ansoddol ar sail Theori Hunanbenderfyniad’, Gwerddon, 40, 1–21. https://doi.org/10.61257/GWER4001

Nôl i erthyglau