Rhifyn 32

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Undeb Ewropeaidd: Crefydd a Llywodraethiant yn yr Unfed Ganrif ar Hugain

Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut y mae’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r gymuned Gatholig ehangach yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Amlinella ffurf sefydliadol a threfniadaethol y prif gyrff Catholig sy’n weithredol ym Mrwsel, a dengys sut y maent yn ymwneud â phrosesau polisi’r UE. Seilir y gwaith dadansoddi ar gorff o gyfweliadau gwreiddiol a gynhaliwyd ag ymarferwyr. Dengys fod y berthynas rhwng y gymuned Gatholig a’r UE yn gweithredu ar dair lefel – lefel ddiplomyddol, lefel led ffurfiol a sefydliadol, a lefel anffurfiol – a bod yn rhaid cadw golwg ar y tair lefel er mwyn cael darlun clir o’r modd y gweithreda’r gymuned Gatholig mewn perthynas â’r UE. Cyflwynir tair set o oblygiadau sy’n datblygu dealltwriaeth o rôl crefydd mewn llywodraethiant cyfoes.

Allweddeiriau

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Yr Undeb Ewropeaidd, lobïo, eirioli, crefydd, llywodraethiant.

Cyfeirnod

Dafydd, E. (2021), ‘Yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Undeb Ewropeaidd: Crefydd a Llywodraethiant yn yr Unfed Ganrif ar Hugain’, Gwerddon, 32, 26–56. https://doi.org/10.61257/ATOG4153  

Nôl i erthyglau