Mae’r dudalen hon ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt yn amlinellu telerau defnyddio ein gwefan (gwerddon.cymru). Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio’r safle.

 

Gwybodaeth amdanom ni

Mae gwerddon.cymru yn safle sy’n cael ei gweithredu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (‘y Coleg’), sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 07550507. Mae swyddfa gofrestredig a phrif swyddfa’r Coleg yn Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3EQ.  

  

Hawlfraint

Gwefan gwerddon.cymru 

Oni bai y nodir yn wahanol, y Coleg sydd berchen hawlfraint yr holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, ac ni cheir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw.  

 

Erthyglau a gyhoeddwyd cyn 31 Rhagfyr 2025 

Cedwir hawliau erthyglau a gyhoeddwyd cyn 31 Rhagfyr 2025 gan Gwerddon neu’r awduron unigol. Ni chaniateir atgynhyrchu na dosbarthu unrhyw ran o’r erthygl ar unrhyw ffurf oni bai am ddefnydd personol neu at ddefnydd addysgol a/neu ymchwil yn unig, a hynny yn anfasnachol. Rhaid i bob atgynhyrchiad o erthygl neu ei chynnwys gydnabod y ffynhonnell a’r awdur. 

 

Erthyglau a gyhoeddwyd wedi 1 Ionawr 2026 

Cyhoeddir erthyglau dan drwydded Creative Commons (‘CC BY 4.0’), sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ailddefnyddio’r gwaith gyda chydnabyddiaeth briodol. Gweler amodau llawn trwydded CC BY. (Saesneg yn unig). 

 

Cyfyngiad atebolrwydd 

Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y tudalennau hyn, ond yn naturiol y mae eu cynnwys yn agored i newidiadau. Ceidw'r Coleg yr hawl i wneud newidiadau i unrhyw wefan a reolir gan y Coleg heb unrhyw rybudd. Ni ellir dal y Coleg yn atebol mewn unrhyw amgylchiadau am niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnyddio a/neu lawrlwytho dogfennau o’r wefan.  

 

Dolenni allanol  

Mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau allanol. Nid yw’r Coleg yn gyfrifol am gynnwys nac ansawdd deunydd ar wefannau o'r fath nac ychwaith yn gyfrifol am sicrhau bod y deunydd ar gael. Ni ddylid cymryd bod cyswllt â safle allanol yn golygu bod y Coleg yn gefnogol i safbwyntiau a fynegir neu wasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.

 

Polisi Cwcis  

Gweler wybodaeth am sut mae’r Coleg a’i wefannau yn defnyddio cwcis ar wefan y Coleg#

 

Polisi Preifatrwydd 

Gweler gwybodaeth am sut mae’r Coleg Cymraeg yn casglu a chadw data personol ar y wefan y Coleg.

 

Ymholiadau 

Cysylltwch â ni drwy gwybodaeth@gwerddon.cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau am y deunydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. 

Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg ac yn ôl ei ewyllys. 

Diweddarwyd: 24 Ebrill 2026