Hawlfraint ©

Cedwir hawliau holl dudalennau a chynnwys y wefan hon gan Gwerddon neu’r awduron unigol. Ni chaniateir atgynhyrchu na dosbarthu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf oni bai am ddefnydd personol neu at ddefnydd addysgol a/neu ymchwil yn unig, a hynny yn anfasnachol. Rhaid i bob atgynhyrchiad o’r wefan neu ei chynnwys gydnabod y ffynhonnell a’r awdur.

Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunyddiau Gwerddon yn ymestyn i unrhyw ddeunyddiau ar y wefan hon sydd wedi’u nodi fel eiddo trydydd parti. Rhaid sicrhau caniatâd deiliaid yr hawlfraint perthnasol i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd o’r fath.

Ymwadiad

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r dogfennau a geir ar y wefan hon yn gywir ac yn ddiwall, nid yw Gwerddon yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth neu lawrlwytho ffeiliau o’r wefan hon. Yn unol ag arfer da cyfrifiadurol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio ac yn diweddaru meddalwedd gwrth-feirws yn rheolaidd ac yn cyflwyno pob dogfen a lawrlwythir i wirydd feirws cyn ei hagor.

Nid yw Gwerddon, ei Fwrdd Golygyddol, staff na chyfranwyr, nac unrhyw unigolyn neu endid cyfreithiol, nac unrhyw endid cyhoeddus, rhannol-gyhoeddus na phreifat sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd at baratoi, cyfansoddi na hyrwyddo’r wefan hon a’i chynnwys yn derbyn cyfrifoldeb yn sgil unrhyw gamddefnydd amhriodol neu dwyllodrus ohonynt. At hynny ni fyddant yn gyfrifol am gywirdeb nac argaeledd parhaus unrhyw ddata sydd ar wefan Gwerddon neu ar gael trwy wefan Gwerddon. Cedwir yr hawl i ddileu, addasu neu newid unrhyw gynnwys ar y wefan hon ar unrhyw adeg a heb rybudd. Mae gwefan Gwerddon ar gael i bawb o fewn y sector Addysg Uwch. Gwaherddir ei defnyddio at ddibenion masnachol.

Er y gwneir pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod y wefan hon fel arfer ar gael 24 awr y dydd, ni fydd Gwerddon yn gyfrifol os na fydd y wefan ar gael ar unrhyw adeg nac am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm. Gall mynediad i’r wefan hon gael ei hatal dros dro a heb rybudd os cyfyd problem dechnegol ddifrifol neu at ddibenion cynnal a chadw, neu am unrhyw reswm sydd y tu hwnt i reolaeth Gwerddon.

Nid yw Gwerddon yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Nid yw unrhyw gyfeiriadau neu ddolenni at safleoedd allanol yn golygu bod Gwerddon yn cymeradwyo nac yn cytuno ag unrhyw farn a fynegir neu wasanaethau a gyflenwir gan neu drwy’r safleoedd hynny.

Mae Gwerddon yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg ac yn ôl ei ewyllys.