Rhifynnau arbennig rhithiol

Yn achlysurol, cyhoeddir rhifynnau arbennig rhithiol, gyda’r nod o ddod â chyfraniadau thematig o archif Gwerddon at ei gilydd. Ein gobaith yw y bydd tynnu erthyglau ynghyd o’r archif ar themâu penodol yn gymorth i ysgolheigion, myfyrwyr coleg ac ysgol a’r cyhoedd yn gyffredinol i ddod o hyd i ddeunydd academaidd safonol am feysydd gwahanol yn y Gymraeg.

Rhifyn arbennig: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025

8 Mawrth 2025

Sut mae newydd-deb yn dod i’r byd? Cwestiwn dyrys. Ond mae’r gair ‘maes’ ar gyfer astudio yn ddelwedd gyfoethog dros ben. Gall y rhan fwyaf ohonom amgyffred y syniad o gae, ei hyd a’i led, ond edrych o’r tu allan a wnawn yn aml fel sylwebyddion. Eithr edrych yn fwy dwys a manwl a wna’r rheiny sydd ym maes ysgolheictod. Ac yn ôl y bardd Patrick Kavanagh, wrth ystyried caeau, ‘dyfnder sy’n cyfri ac nid lled’. A dyna’r hyn sy’n gwneud ymchwilwyr mor werthfawr yn ein byd ni wrth iddynt dynnu sylw a dwyn i’r golwg ryw drysorau o’r newydd, a hynny drwy dyrchu a datgelu'r hyn a fu’n guddiedig.

Hyfryd yw cyflwyno rhai sydd wrthi’n ymdreiddio’n ddygn am atebion i’r cwestiwn uchod gyda’u doniau a’u dysg. Cawn gip ar briddoedd yr Antartig a’i ymlediad i ymchwil i lif yr atmosffer trydanol dros amgylchedd y ddaear a’r gofod. Hefyd, awn ar drywydd tafoli’r personol a’r diwydiannol rhwng un o deuluoedd mwyaf adnabyddus Cymru a’i ddylanwad ar deulu a diwydiant yn Ffrainc. Treiddir i hanes Patagonia ddoe a heddiw a’i gwaddol ôl-drefedigaethol. A rhoddir pen ar y mwdwl ym myd meysydd ‘cerdded ymlaen’, gyda’r filltir sgwâr ieithyddol yn cynnig gobaith am dafodau dwyieithog.

‘Astudrwydd yw ffurf puraf haelioni’ meddai Simon Weil. A dyna yw cnewyllyn a chraidd yr ystod  o ymchwil eangfrydig a chyffrous a geir yma. Ymddengys y meysydd oll yn arallfydol o ddiriaethol. Ond maes o law llwyddant oll i gynysgaeddu ein bydolwg, gan roi inni wybodaeth eithriadol. Newydd.

Yr Athro Menna Elfyn

Rhifyn arbennig: Ieithoedd Brodorol

8 Ionawr 2020

Ieithoedd Brodorol yw testun trydydd rhifyn arbennig rhithiol Gwerddon. Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon, sydd wedi tynnu'r rhifyn hwn ynghyd.

Roedd 2019 yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO, menter a oedd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol ieithoedd brodorol ym mywydau pobl am nifer o resymau, gan gynnwys addysg, ac ar yr un pryd yn amcanu i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad sydd i ieithoedd brodorol heddiw. Cynhaliwyd Gŵyl Ein Llais yn y Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddiwedd Tachwedd 2019, a chafwyd rhaglen gyfoethog o drafodaethau yn canolbwyntio ar ddysgu a defnyddio iaith, llên, y celfyddydau, y cyfryngau, ynghyd â pholisi a chynllunio iaith, gan amlygu profiad o Gymru a gwledydd eraill. Cafwyd sesiwn o gyflwyniadau byrion gan ymchwilwyr a gyhoeddodd erthyglau yn Gwerddon ar y themâu hyn ar hyd y blynyddoedd, gan danlinellu’r cyfraniad y mae ymchwilwyr a gyhoeddodd yn Gwerddon wedi ei wneud i’r drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill ers 2007. Mae’r erthyglau a dynnwyd ynghyd yn y rhifyn arbennig rhithiol hwn, y trydydd o’i fath, yn cynrychioli’r cyfoeth o waith a gyhoeddwyd yn Gwerddon ar faterion mor amrywiol â llenyddiaeth, addysg, canu poblogaidd, ieithyddiaeth, technoleg, gwleidyddiaeth, cyfraith a demograffeg y Gymraeg. Mae’n debyg y gellid cyfiawnhau holl erthyglau Gwerddon mewn rhifyn arbennig ar ieithoedd brodorol, gan fod Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau mewn iaith frodorol, leiafrifol mewn cyd-destun economaidd a gwleidyddol heriol. Hyd yn oed o ddewis yr erthyglau sydd yn trafod y Gymraeg yn uniongyrchol, fodd bynnag, mae gormod ohonynt i gyhoeddi mewn un rhifyn rhithiol. Dewiswyd erthyglau i gynrychioli’r amrywiaeth o feysydd ymchwil, yn y gobaith y bydd yn codi awydd i bori yn yr archif ac yn ysbrydoli ymchwilwyr i barhau i drafod y Gymraeg yn ei holl amrywiaeth rhwng cloriau Gwerddon.

Erthyglau Ieithoedd Brodorol

Rhifyn arbennig: Daearyddiaeth

1 Mawrth 2018

Daearyddiaeth yw thema ail rifyn arbennig rhithiol Gwerddon. Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth, sy'n cyflwyno'r rhifyn hwn.

Pleser o’r mwyaf yw cael ysgrifennu’r cyflwyniad i’r rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon ar Ddaearyddiaeth. Dengys yr erthyglau a gynhwysir yn y rhifyn hwn yr amrediad o themâu a astudir o fewn Daearyddiaeth gyfoes. Mae’n bwnc eang dros ben sy’n cwmpasu sawl maes gwahanol; o astudiaethau o’r prosesau sy’n llunio hunaniaethau cyfoes, i ymchwiliadau manwl o’r prosesau cemegol sy’n gysylltiedig â llygredd o bob math. Er y gall edrych fel pwnc eclectig ar brydiau, yr hyn sy’n uno’r holl astudiaethau hyn yw eu hymdrech i ddeall cyfraniad safbwynt neu ddynesiad daearyddol – un sy’n pwysleisio arwyddocâd nodweddion daearyddol megis gofod, lle, graddfa, symudedd, yr amgylchedd ac ati – ar gyfer deall a datrys yr amryw heriau sy’n wynebu ein byd.

Mae nifer o resymau penodol pam y dylwn ni fod yn dathlu cyfraniad daearyddwyr a Daearyddiaeth yn y rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon. Yn gyntaf, mae tystiolaeth yn dangos bod yr heriau sy’n wynebu ein byd yn cynyddu mewn amlder a dwyster, a bod angen dirfawr am ddehongliadau daearyddol er mwyn mynd i’r afael â hwy. Sut y gallwn ni geisio dechrau dehongli trychineb y Rohingya yn Myanmar neu ffoaduriaid o Syria yn Ewrop heb ddeall yr anhafaliadau gofodol rhwng gwledydd gwahanol, y dychymyg daearyddol sy’n cysylltu rhai pobl â thiriogaethau penodol ac yn eu gwahardd o diriogaethau eraill, ynghyd â’r ymdrechion cynyddol sydd yn ein byd i reoli symudedd pobl? Yn yr un modd, sut y gallwn ni geisio dechrau deall her newid hinsawdd heb ystyried yr holl brosesau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r newid pellgyrhaeddol hwn; boed y newidiadau sy’n digwydd i lefel y môr, yr olion o newidiadau hanesyddol yn natur yr hinsawdd a geir mewn rhewlifoedd a llenni iâ, y prosesau ffisegol sy’n digwydd yn yr atmosffêr, a’r ffyrdd anghynaladwy o drefnu economïau a chymdeithasau’r byd. Cynigia safbwynt daearyddol ddull effeithiol a synthetig, felly, o ddeall a cheisio datrys yr heriau amrywiol hyn.

Yn ail, mae galw amlwg yng Nghymru am y sgiliau penodol a feddir gan ddaearyddwyr, ac yn enwedig daearyddwyr sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog. Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y Gymru gyfoes yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, deddf sy’n gorfodi pob corff cyhoeddus yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol, Parciau Cenedlaethol, Byrddau Iechyd ac ati – i hyrwyddo llesiant a datblygiad cynaliadwy yn yr holl benderfyniadau a wneir ganddynt. Nodir saith nod llesiant fel rhan o’r Ddeddf – sef creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru a chanddi ddiwylliant bywiog lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu – gyda’r bwriad o gyrraedd y nodau hyn erbyn 2050. Yr hyn sy’n nodweddiadol i mi yw’r ffaith fod safbwynt daearyddol yn gwbl greiddiol i’r holl nodau hyn, yn enwedig wrth ystyried y rhyngberthnasau posib sy’n bodoli rhyngddynt. Ac, o gofio’r pwyslais ar y nod o greu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, dena’r Ddeddf ein sylw at yr angen i sicrhau bod gan y dynesiad daearyddol hwn bwyslais ar y Gymraeg ac ar rôl daearyddwyr dwyieithog yn hyrwyddo holl nodau’r Ddeddf.

Yn olaf, credaf ei bod yn gwbl addas i gyhoeddi’r rhifyn rhithiol hwn eleni gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant Daearyddiaeth fel pwnc yng Nghymru. Ganrif yn ôl y crëwyd Cadair Daearyddiaeth Gregynog yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar sail rhodd hael iawn gan deulu Davies Llandinam a Gregynog. Penodwyd yr Athro Herbert John Fleure i’r gadair honno a dyna gychwyn ffurfiol ar Ddaearyddiaeth fel pwnc prifysgol yng Nghymru. Tyfodd yr Adran Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth yn adran fwyaf blaenllaw Prydain erbyn yr 1950au a’r 1960au o dan arweinyddiaeth yr Athro Emrys Bowen, a sbardunodd y datblygiad hwn ffurfiant adrannau Daearyddiaeth eraill yn Abertawe, Bangor a Chaerdydd maes o law. Ac wrth gwrs, deall daearyddiaeth Cymru fel gwlad ac, o’i ddeall, creu dulliau ymarferol o’i wella, oedd rhai o brif amcanion yr holl adrannau hyn o’r cychwyn cyntaf. Mae’r gwaith hwn yn parhau hyd heddiw yng nghyd-destun prosiectau fel: CHERISH, sy’n ceisio deall goblygiadau newid hinsawdd ar gyfer treftadaeth arfordirol Cymru; Living Wales, sy’n hyrwyddo’r defnydd o luniau lloeren fel tystiolaeth ar gyfer polisïau amgylcheddol y wlad; WISERD Cymdeithas Sifil, lle y ceisir diffinio rôl mudiadau gwirfoddol yn y Gymru gyfoes. Bu daearyddwyr yn ganolog i’r ymdrech i geisio deall Cymru ers canrif bellach a, hyd y gwelaf fi, bydd angen iddynt chwarae rôl flaenllaw yn yr ymdrechion i geisio gwneud hynny am gan mlynedd arall.

Rhydd y rhifyn rhithiol hwn gyfle i ni, felly, i ddathlu cyfraniad Daearyddiaeth a daearyddwyr i’r ymdrech o geisio llunio dealltwriaethau trylwyr a synthetig o Gymru a’r byd, gyda’r bwriad amlwg o geisio defnyddio’r dealltwriaethau hyn fel ffordd o liniaru’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r ddynoliaeth a’r amgylchedd. Diolch i gyfnodolyn Gwerddon am y cyfle i ni allu gwneud hyn ac, yn bennaf oll, i’n galluogi ni i wneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erthyglau Daearyddiaeth

Rhifyn arbennig: Cerddoriaeth

1 Mawrth 2017

Y rhifyn arbennig hwn o Gwerddon fydd y cyntaf yn y gyfres i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddeunydd a gyhoeddwyd ym maes Cerddoriaeth ers sefydlu’r cylchgrawn academaidd hwn yn 2007. Gan gymryd Cerddoriaeth (a Cherddoreg yn enwedig) yn ei ystyr ehangaf i gynnwys hanes cerddoriaeth, hanesyddiaeth cerddoriaeth, dadansoddi cerddoriaeth ac ethnogerddoreg, atgynhyrchir yma saith erthygl sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar y traddodiad lleisiol yng Nghymru gan rychwantu bron i ddwy ganrif a hanner – o gyfnod arloesol Iolo Morganwg (1747–1826) yn casglu alawon gwerin yng nghyffiniau Trefflemin, a chanu protest yng Nghymru’r 1960au a’r 1970au, hyd at ymdriniaeth â dylanwad allweddol canu corawl ar iechyd a lles ein cymunedau ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.   

Yr hyn a ddaeth fwyaf i’r amlwg yn ystod y degawd diwethaf oedd ehangder a maint ysgolheictod cerddorol ymchwilwyr a darlithwyr ifanc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn dilyn cyhoeddi’r gyfrol hon o Gwerddon ar Ddydd Gŵyl Dewi, y gobaith yw yr ehangir ar y deunydd hwn drwy ychwanegu at weithgareddau a chyhoeddiadau Cymraeg sy’n bodoli eisoes, megis Canu Gwerin (Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) ac Allwedd y Tannau (Cylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dant Cymru).

Wrth i faes cerddoriaeth yng Nghymru ddioddef yn sgil cyni ariannol a chwtogi cenedlaethol ar draws y celfyddydau, mae’n galondid gweld bod diddordeb yr ifanc yn hanes a datblygiad ein traddodiad cerdd yn parhau, a’r niferoedd sy’n astudio’r grefft ar gynnydd yn ein prifysgolion. Brysied y dydd pan welir eto do newydd o ysgolheigion a fydd yn ddigon abl i ymdrin â’r maes drwy gyfrwng y Gymraeg ac y bydd ffrwyth eu hymchwil yn fodd i ddwyn sylw ac edmygedd rhyngwladol i gyfoeth ac amrywiaeth ein traddodiad.

Wyn Thomas