Enwebu cadeirydd i'r Bwrdd Golygyddol
Mae Gwerddon yn chwilio am Gadeirydd ar gyfer ei Fwrdd Golygyddol i olynu Dr Paula Roberts. 
Y Cadeirydd sy'n gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd o Fwrdd Prosiect a Bwrdd Golygyddol Gwerddon. 
Bydd dyletswyddau penodol yn cynnwys:
- Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Golygyddol (dau y flwyddyn - y naill ar-lein a'r llall wyneb yn wyneb, yn Aberystwyth fel arfer); 
 
- Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Prosiect (dau ar-lein y flwyddyn);
 
- Cynorthwyo'r Tîm Golygyddol gyda phenderfyniadau yn ymwneud â datblygiad a phrosesau'r cyfnodolyn, gan gynnig barn yn ôl y gofyn;
 
- Cynrychioli'r Bwrdd Golygyddol ar Bwyllgor Ymchwil a Chyhoeddi y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (teirgwaith y flwyddyn);
 
- Cefnogi'r Golygydd a'r Is-olygydd mewn digwyddiadau hyrwyddo achlysurol megis yr Eisteddfod Genedlaethol.
 
Bydd tymor y swydd yn dair blynedd gan ddechrau ar 1 Medi 2024. Rôl ddi-dâl yw hon ond telir costau rhesymol (e.e. teithio). 
Dewisir y cadeirydd drwy bleidlais o aelodau presennol y Bwrdd Golygyddol yn y cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf, a hysbysir yr enwebai llwyddiannus yn dilyn hynny.
Gweler rhagor o wybodaeth yn y dogfennau isod. 
Gwahoddir unigolion i gyflwyno eu henw neu eu henwebiad drwy'r ffurflen enwebu isod erbyn canol dydd, dydd Gwener, 12 Ebrill 2024. 
Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â gwybodaeth@gwerddon.cymru.