Enwebu cadeirydd i'r Bwrdd Golygyddol
Mae Gwerddon yn chwilio am Gadeirydd ar gyfer ei Fwrdd Golygyddol i olynu Dr Myfanwy Davies.
Y Cadeirydd sy'n gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd o Fwrdd Prosiect a Bwrdd Golygyddol Gwerddon.
Bydd dyletswyddau penodol yn cynnwys:
Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Golygyddol (dau ar-lein y flwyddyn);
Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd Prosiect (dau ar-lein y flwyddyn);
Cynorthwyo'r Tîm Golygyddol gyda phenderfyniadau yn ymwneud â datblygiad a phrosesau'r cyfnodolyn, gan gynnig barn yn ôl y gofyn;
Cynrychioli'r Bwrdd Golygyddol ar Bwyllgor Ymchwil a Chyhoeddi y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (teirgwaith y flwyddyn);
Cefnogi'r Golygydd a'r Is-olygydd mewn digwyddiadau hyrwyddo achlysurol megis yr Eisteddfod Genedlaethol (tua un neu ddau y flwyddyn).
Bydd tymor y swydd yn dair blynedd gan ddechrau ar 1 Tachwedd 2026. Rôl ddi-dâl yw hon ond telir costau rhesymol (e.e. teithio).
Dewisir y cadeirydd drwy bleidlais ymhlith aelodau presennol y Bwrdd Golygyddol.
Gweler rhagor o wybodaeth yn y dogfennau isod.
Gwahoddir unigolion i gyflwyno eu henw neu eu henwebiad drwy'r ffurflen enwebu isod erbyn canol dydd, dydd Gwener, 9 Hydref 2026.
Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â gwybodaeth@gwerddon.cymru.