Mae’r astudiaeth hon yn archwilio agweddau gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru tuag at ddefnyddio’r Gymraeg mewn lleoliadau clinigol. Cynhaliwyd arolwg di-enw ar-lein er mwyn asesu hyfedredd yn y Gymraeg, profiadau o ddefnyddio’r iaith gyda chleifion a chyd-weithwyr, a barn am rôl y Gymraeg mewn gofal iechyd. Canfuwyd cysylltiad cryf rhwng defnyddio’r Gymraeg a hyder wrth gyfathrebu. Yn gyffredinol, roedd yr agweddau’n gadarnhaol, gyda llawer yn cefnogi gofynion hyfedredd sylfaenol, cynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd Cymraeg eu hiaith er mwyn gwella gofal cleifion, a dyrannu lleoedd i siaradwyr Cymraeg ar gyrsiau gofal iechyd. Awgrymir y gall hyrwyddo’r Gymraeg mewn gofal iechyd wella ansawdd gofal ar gyfer poblogaeth ddwyieithog Cymru.
Allweddeiriau
iaith leiafrifol, cyfathrebu, y Gymraeg, gofal cleifion
Cyfeirnod
Blake, L., et al. (2026), ‘Agweddau gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru tuag at ddefnyddio’r Gymraeg mewn lleoliadau gofal iechyd’, Gwerddon, 42. https://doi.org/10.61257/GWER4203