Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau, ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol.
Allweddeiriau
amrywio ieithyddol, Cymraeg, Caerdydd, cyffyrddiad tafodieithol, safoni, ffurfio tafodiaith newydd, adfywio ieithyddol
Cyfeirnod
Ianto Gruffydd, ‘Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd1 ‘, Gwerddon, 35, Gorffennaf 2023, 47-75.
DOI
https://doi.org/10.61257/VABG1015