Rhifyn 37

Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard

Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu.

Allweddeiriau

Cwsg, Y Ficer Prichard, llenyddiaeth Gymraeg, yr ail ganrif ar bymtheg, Cristnogaeth, Protestaniaeth, duwioldeb, y cyfnod modern cynnar

Cyfeirnod

Alter, D. (2024), 'Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard', Gwerddon, 37, 41–61. https://doi.org/10.61257/HEOY7472 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-1926-4669
Nôl i erthyglau