Yn dilyn crynodeb o ddamcaniaethau diweddar ynglŷn â gwrywdod a hunaniaeth, mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y portread o wrywdod yn L'Homme rompu (Y Dyn Toredig), sef nofel gan un o awduron mwyaf adnabyddus Moroco, Tahar Ben Jelloun. Yn ogystal â chyfeirio at y fframwaith theoretig er mwyn dadlau bod L'Homme rompu yn arddangos sut mae pwysau disgwrsaidd yn effeithio ar unigolion, cynigir ystyriaeth fanwl o bortread gwrywdod a hunaniaeth yn y nofel, a thrwy gyfeirio at ei chwaer-nofel answyddogol, La Femme rompue (Y Ddynes Doredig) gan Simone de Beauvoir, cwestiynir i ba raddau y mae'r datganiad dirfodol am ddewis yr unigolyn a goddrychedd yn parhau i fod yn gywir yn sgil yr hinsawdd damcaniaethol cyfredol.
Allweddeiriau
Hunaniaeth, gwrywdod, Jelloun, goddrychedd, rompu.