Adwaenir y defnydd o ferfau symud i gyfleu’r dyfodol yn drawsieithyddol fel enghraifft o ramadegoli (grammaticalization), sef lle bo strwythur yn newid dros amser i fod yn llai diriaethol ac yn fwy gramadegol. Dadansoddir nifer o gorpora hanesyddol a chyfoes o’r Gymraeg mewn modd ansoddol er mwyn adnabod datblygiad diacronig o ‘mynd i’ er mwyn cyfleu’r dyfodol yn yr iaith Gymraeg. Gwelir rhai enghreifftiau o’r ffurf ramadegoledig o ‘mynd i’mewn testunau o’r unfed ganrif ar bymtheg a’r ail ganrif ar bymtheg, gan ddangos bod y broses o ramadegoli wedi dechrau o leiaf 500 mlynedd yn ôl, ond ni ddaeth y strwythur yn flaenllaw tan yr ugeinfed ganrif. Dadleuir bod hyn yn enghraifft o ddylanwad gramadeg y Saesneg, sydd â’r ymadrodd BE + going to a fu hefyd drwy broses o ramadegoli hanesyddol, ac y bu cynnydd mewn dwyieithrwydd yn ystod yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn ffactor yn y broses o normaleiddio’r ffurf wedi ei ramadegoli. Trafodir sut mae sefyllfa’r strwythur Cymraeg hwn yn datblygu ein gwybodaeth o effaith cydgyffwrdd ieithyddol (language contact) ar ramadegoli.
Allweddeiriau
Cymraeg, ieithyddiaeth, gramadegoli, newid ieithyddol, dwyieithrwydd.
Cyfeirnod
Webb-Davies, P. a Shank, Ch. (2020), ‘Defnydd hanesyddol a chyfoes o ‘mynd i’ yn y Gymraeg: Astudiaeth o ramadegoli fel newid ieithyddol’, Gwerddon, 30, 23-39. https://doi.org/10.61257/TPKP3394