Mae gan yr iaith Gymraeg sawl nodwedd yn ei gramadeg sy’n anghyffredin iawn ar draws ieithoedd. Mae’r papur hwn yn edrych ar bum nodwedd o’r fath, ar eu prinder yn ieithoedd y byd ac ar eu lle yng ngramadeg y Gymraeg. Mae’n dangos bod amlder testunol pob nodwedd, yng nghorff Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn prinhau. Mae’r pum nodwedd hyn, a oedd yn sefydlog yn y Gymraeg ers y cofnodion cynharaf ymhell dros fil o flynyddoedd yn ôl, yn ystod oes siaradwyr hŷn, wedi mynd yn ddewisol neu’n ddarfodol yn yr iaith lafar: mae gramadeg yr iaith wedi newid. Mae’n debygol bod y Gymraeg yn newid oherwydd dwyieithrwydd. Ynghyd â’r cynnydd yn y defnydd cyhoeddus o’r Gymraeg yn ddiweddar, cafwyd cynnydd yn y defnydd o’r Saesneg ym mywydau pob dydd siaradwyr Cymraeg. Mae’r siaradwr Cymraeg cyffredin bellach yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg, y tu allan i’r teulu o leiaf. Dangoswyd BOD siarad ail iaith yn rhugl ac yn rheolaidd yn effeithio ar iaith gyntaf y siaradwr, yn fwy na thebyg i leihau’r baich seicolegol wrth newid yn gyson rhwng y ddwy iaith. Dadleuir, mewn sefyllfa o’r fath, ar draws ieithoedd, fod nodweddion anghyffredin o’u hanfod yn fwy tueddol o gael eu colli. Yn olaf, mae’r papur yn edrych yn gyflym iawn ar ddatblygiadau posibl yn y dyfodol.
Allweddeiriau
Cymraeg, gramadeg, dwyieithrwydd, ieithyddiaeth.