Y mae’r erthygl hon yn olrhain hanes cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol sy’n gwella o gyflwr alcoholiaeth. Nod yr erthygl yw cryfhau ein dealltwriaeth o natur dibyniaeth ac effaith dibyniaeth ar fywyd a gyrfa’r chwaraewr. Defnyddir syniadau ffenomenoleg dibyniaeth Flanagan (2011) er mwyn dadansoddi’r profiadau a’r emosiynau sy’n sail i’r anhrefn a’r dryswch – ac yn bwydo’r nodweddion hynny – yn hanes y cyn-chwaraewr hwnnw.
Allweddeiriau
Dibyniaeth, alcoholiaeth, chwaraeon, pêl-droed, adferiad.