Ar achlysur ei ddeuddegfed pen-blwydd a’i ganfed erthygl, olrheinir yn yr erthygl hon hanes Gwerddon fel e-gyfnodolyn academaidd ac fel datblygiad cyffrous yn natblygiad diweddar yr uwchefrydiau yn y Gymraeg. Er iddo ymddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2007, taera’r awdur fod ei wreiddiau’n gorwedd yn ddwfn yn hanes defnydd y Gymraeg ledled y disgyblaethau academaidd yn ein sefydliadau Addysg Uwch yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y Gwyddorau yn ogystal â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau. Daeth y gweithgareddau hyn i ffocws penodol yn negawd cyntaf y mileniwm newydd, yn gyntaf oherwydd rheolau newydd yr asesiadau ymchwil, ac yn ail yn sgil y trafodaethau brwd a fu o blaid y coleg ffederal, ac yn dilyn hynny sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC). Gwelir ynddo hefyd sut y cyfrannodd Gwerddon at ddatblygiad presenoldeb y Gymraeg ar rwydwaith rhithiol y we. Yn olaf, awgrymir bod ei ddyfodol yn gyd-ddibynnol ar ffyniant y CCC a pharhad y Gymraeg fel iaith ymchwil yn ein prifysgolion, a hynny ar adeg gynyddol ansicr.
Dyma'r ganfed erthygl i gael ei chyhoeddi yn Gwerddon ers cyhoeddi'r rhifyn cyntaf yn 2007. Dymuna'r Bwrdd Golygyddol ddiolch i'r Athro Aled Gruffydd Jones am ymchwilio i hanes sefydlu'r cyfnodolyn ac ysgrifennu'r erthygl arbennig hon i nodi'r achlysur.
Allweddeiriau
Gwerddon, ymchwil, e-gyfnodolion, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ioan Williams.
Cyfeirnod
Jones, A. (2019), ‘Gwerddon: gwyrddlasu anialdir? Rhai sylwadau ar hanes e-gyfnodolyn academaidd Cymraeg’, Gwerddon, 28, 6–20. https://doi.org/10.61257/ZMHU4115